Light on Yoga

Light on Yoga
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurB. K. S. Iyengar Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Prif bwncIyengar Yoga Edit this on Wikidata

Mae Light on Yoga: Yoga Dipika (Sansgrit: योग दीपिका "Yoga Dīpikā") yn llyfr o 1966 sy'n seiliedig ar arddull Ioga Iyengar o ioga modern fel ymarfer corff gan BKS Iyengar, ac a gyhoeddwyd gyntaf yn Saesneg. Mae'n disgrifio mwy na 200 o 'ystumiau' ioga neu 'asanas', ac fe'i darlunnir gyda rhyw 600 o ffotograffau unlliw o BKS Iyengar yn arddangos y safleoedd yma.

Disgrifiwyd y llyfr fel beibl ioga modern,[1]Goldberg, Michelle (23 Awst 2014). "Iyengar and the Invention of Yoga". The New Yorker. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2018.</ref>[2]"Light on Life: The Yoga Journey to Wholeness, Inner Peace, and Ultimate Freedom". Publishers Weekly. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2018.</ref> ac mae ei gyflwyniad o'r asanas wedi'i alw'n "ddigynsail"[3] a'r llyfr yn "wyddoniadur".[3]

Mae'r gyfrol wedi ei chyfieithu i o leiaf 23 o ieithoedd ac wedi gwerthu dros dair miliwn o gopïau.[4][5]

  1. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Goldberg 2014
  2. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw PublishersWeekly
  3. 3.0 3.1 Singleton, Mark (6 Hydref 2014). "Honoring B.K.S. Iyengar: Yoga Luminary". Yoga Journal. Cyrchwyd 20 Mawrth 2019.
  4. Stukin, Stacie (10 Hydref 2005). "Yogis gather around the guru". Los Angeles Times.
  5. George, Nirmala (23 Awst 2014). "Obituary: B.K.S. Iyengar, 95; was known worldwide as creator of Iyengar yoga". The Washington Post. The book became a global bestseller, with more than 3 million copies sold, and has been translated into 17 languages.

Developed by StudentB